Induction Pack Link to Introduction
WLGA logo
Llwytho ffeil i lawr
Argraffwch dim ond os gwir angen hynny.

Arweiniad i Drefnwyr a Hwyluswyr

1. Cefndir

Ar y cyd â chwmni Blue Apple ac awdurdodau lleol Cymru, mae WLGA wedi llunio 7 modiwl cyflwyno ar gyfer cynghorwyr newydd yn sgîl etholiadau lleol 2008. Mae'r modiwlau'n ymwneud â'r meysydd isod:

  • Cyflwyno byd llywodraeth leol
  • Llywodraethu corfforaethol effeithiol
  • Moeseg a safonau
  • Cyfarfodydd
  • Cydraddoldeb ac amrywioldeb
  • Arian byd llywodraeth leol
  • Arwain y gymuned ac ymgysylltu â hi

Diben y modiwlau yw rhoi gwybodaeth a medrau i gynghorwyr newydd fel y gallan nhw gael eu traed tanyn nhw yn y swydd. Bydd y rhaglen wladol yma'n rhoi cyfleoedd tebyg i bob cynghorydd ddatblygu ac yn galluogi'r awdurdodau i ddylanwadu ar y cynnwys. Mae'r cyfraniad a'r cyd-destun lleol yn hanfodol a'r disgwyl yw y bydd yr awdurdodau'n ychwanegu gwybodaeth leol at y deunydd safonol i roi i'w cynghorwyr ddarlun eglur o'r sefyllfa y byddan nhw'n gweithio ynddi. At hynny, caiff y cynghorwyr becynnau e-ddysgu i'w defnyddio ar eu pennau eu hunain i feithrin rhagor o fedrau.

Y bwriad yw mai swyddogion a chynghorwyr lleol fydd yn cyflwyno'r modiwlau ym mhob awdurdod neu, lle nad oes digon o adnoddau, ddarparwyr allanol ar y cyd â swyddogion a chynghorwyr lleol.

Diben y canllawiau yma yw helpu trefnwyr a hwyluswyr – yn arbennig y rhaid sydd heb weithio gyda chynghorwyr erioed – i baratoi a chyflwyno'r modiwlau. Mae'r dulliau wedi'u hawgrymu yn sgîl ein profiad o weithio gyda chynghorwyr ledled Cymru ac mae croeso i'r cynghorau eu haddasu yn ôl amgylchiadau lleol fel y gwelan nhw'n dda.


2. Y modiwlau

2.1 Pwy ddylai lywio'r sesiynau?

Yn ddelfrydol, bydd y cynghorau'n defnyddio hwyluswyr mewnol i gynnal y rhaglen. O wneud hynny, bydd modd meithrin perthynas rhwng y swyddogion a'r cynghorwyr yn gynnar, gofalu bod yr wybodaeth yn berthnasol i'r fro a datblygu trefniadau hwyluso mewnol. Os nad oes digon o adnoddau ar gael, mae lle i gydweithio â hwyluswyr yr awdurdodau cyfagos. Lle mae awdurdodau'n dewis penodi hwyluswyr allanol, rydyn ni'n argymell y dylai o leiaf un swyddog mewnol helpu i gyflwyno'r modiwl i ofalu bod unrhyw wybodaeth leol neu arbenigol yn cael ei chynnwys.

Dylech chi ddewis hwyluswyr mewnol o blith:

  • swyddogion sydd â gwybodaeth arbenigol am y maes o dan sylw, megis
  • swyddog gwasanaethau cyfreithiol, swyddog monitro neu swyddog ariannol
  • swyddogion y gwasanaethau i gynghorwyr, sy'n gyfarwydd â gweithio gyda nhw
  • swyddogion hyfforddi profiadol a hyderus ynghylch cyflwyno modiwlau o'r fath
  • cynghorwyr profiadol sy'n gallu cyfleu safbwynt y cynghorwyr a phrofiad personol.

Bydd rhaid pennu'r manylion yn lleol, gan ystyried ffactorau megis pa mor alluog a phrofiadol yw'r bobl ac a ydyn nhw ar gael.

 

2.2 Cynllunio, paratoi a gweinyddu

Bydd swyddogion hyfforddi a datblygu'n gwybod bod cynllunio a threfnu yn hanfodol i lwyddiant pob achlysur. O roi gwybod i'r cynghorwyr ymlaen llaw beth y dylen nhw ei ddisgwyl, gofalu bod yr awyrgylch yn gyfeillgar a rhoi digon o gyfleoedd iddyn nhw roi sylwadau, byddwch chi'n eu helpu i gydio yn y rhaglen ac elwa arni.

Bydd rhestr wirio yma o gymorth i'r rhai nad ydyn nhw'n arbenigo yn y maes:

  • Bydd eisiau digon o amser paratoi ar y prif swyddogion sy'n ymwneud â'r modiwlau.
  • Dylai'r hwyluswyr ddod i adnabod amcanion a chynnwys y rhaglen dros nifer o wythnosau cyn ei chynnal, gan gytuno ar y manylion a chynnal ymarferion.
  • Rhaid i'r trefnwyr roi gwybod i'r cynghorwyr mewn da bryd fod yr awdurdod yn cynnig rhaglen gyflwyno iddyn nhw.
  • Dylai pob rhaglen a gwahoddiad esbonio manylion megis nodau'r sesiynau, ble maen nhw, amser cyrraedd/cofrestru ac, yn bwysicaf oll, amser gorffen.
  • Dylech chi roi'r deunydd i gyd ar ffurf ddwyieithog lle bo angen, a gofalu bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.
  • Dylech chi gynnal y sesiynau mewn mannau cyffyrddus sy'n addas i bobl anabl, lle mae digon o awyr a golau. Mae trefn ‘U’ neu ‘gaffi’ o gymorth wrth weithio fesul cylch.
  • Dylech chi osgoi defnyddio siambrau'r cyngor, sy'n gysylltiedig â gwaith yn hytrach na dysgu yn llygaid y cynghorwyr.
  • Rhaid gofalu bod cyfarpar megis taflunydd a sgrîn PowerPoint, siartiau troi a phinnau ysgrifennu yno a'u bod yn gweithio.
  • Rhowch i bob cynghorydd becyn ac ynddo gopi o'r rhaglen, cyflwyniadau PowerPoint, manylion y gweithgareddau, deunydd cefndirol ac ychwanegol, ffurflenni adborth, papur ysgrifennu a bathodynnau adnabod

 

2.3 Cyflwyno'r modiwlau

Dyma gynnwys (dwyieithog) pob modiwl ar y ddisgen:

  • amcanion y modiwl
  • rhaglen y modiwl
  • nodiadau i'r hwyluswyr
  • cyflwyniad PowerPoint
  • deunydd ychwanegol megis gweithgareddau, astudiaethau o achosion a manylion ychwanegol am y pwnc o dan sylw (bydd natur ac ehangder hynny'n amrywio).

Mae'r cyflwyniad PowerPoint a'r nodiadau i'r hwyluswyr yn gynhwysfawr, er ein bod yn disgwyl y byddwch chi'n ychwanegu gwybodaeth leol megis polisïau, dulliau a data atyn nhw (mae ambell sleid wag yn rhai o'r cyflwyniadau i'r diben hwnnw). Bydd angen i'r hwyluswyr benderfynu faint o ddeunydd sydd i'w gyflwyno ond dylai'r sleidiau i gyd fod yn y pecynnau fel y gall y cynghorwyr eu darllen wedyn.

2.4 Dulliau hwyluso

Rôl yr hwyluswyr wrth weithio gyda'r cynghorwyr yw eu helpu i ddeall gwybodaeth newydd/cymhleth mewn modd syml, ysgogol a rhyngweithiol gan eu helpu i drin a thrafod yr wybodaeth honno a phennu pa gymorth neu ddatblygu ychwanegol fyddai'n briodol. Mae'r cynghorwyr yn cymryd rhan mewn cyrsiau datblygu o'u gwirfodd ac oni bai bod y manteision yn amlwg, byddan nhw'n rhoi'r ffidil yn y to. Dyma rai dulliau a allai fod o gymorth:

  • Sefydlu awyrgylch cyfeillgar, anffurfiol ac agored yn gynnar gan esbonio bod pob hawl gan bawb i gymryd rhan a dweud ei ddweud yn ôl trefniadau cynhwysol sy'n parchu pawb. Y ffordd orau o wneud hynny yw cytuno ar rai rheolau sylfaenol y gallwch chi eu hysgrifennu ar siart droi, eu dangos drwy gydol y sesiwn a thynnu sylw yn ôl atyn nhw pan fo rhywun yn eu torri. Mae'n syniad da llunio rheolau o'r fath ymlaen llaw a'u trafod gyda'r cylch. Dyma rai enghreifftiau:
    • Ystyriaethau ymarferol megis diffodd ffonau poced a chadw at yr amserlen.
    • Parchu'n gilydd – rhoi cyfle i bawb ddweud ei ddweud a chytuno'n gwrtais i anghytuno.
    • Cyfrinachedd priodol – cytuno ar unrhyw wybodaeth na fyddai'n briodol ei lledaenu tu allan i'r sesiwn.
    • Osgoi rwtsh – lle bo angen defnyddio byrfoddau a geirfa arbenigol, rhaid esbonio'r ystyr.
    • Cymryd rhan yn frwd.
    • Osgoi dadleuon gwleidyddol neu geisio talu pwyth yn ôl.
  • Cadw'r ddysgl yn wastad rhwng cyflwyno, trafod ac ymarfer unigol/fesul cylch a gofalu eich bod yn canolbwyntio ar feithrin gwybodaeth bersonol, datblygu medrau ar gyfer y rôl a nodi anghenion datblygu personol.
  • Cydnabod o'r dechrau rolau gwahanol y swyddogion a'r cynghorwyr ac egluro nad amharu na dylanwadu ar ymddygiad a dewisiadau gwleidyddol yw nod y modiwl. Cydnabod rôl wleidyddol deilwng a hanfodol y cynghorwyr a dweud yn eglur na ddylai neb ddefnyddio'r sesiwn i fynegi ei rwystredigaeth wleidyddol na chydio mewn dadleuon gwleidyddol.
  • Ennyn diddordeb y cynghorwyr sydd wedi dychwelyd i'r maes trwy ofyn iddyn nhw sôn am eu profiad yn y pwnc o dan sylw.
  • Gofalu bod y cynghorwyr yn gweld diben y sesiwn trwy ganolbwyntio ar agweddau ymarferol yn lle technegol, gan gyflwyno damcaniaethau yng nghyd-destun pethau mae'r cynghorwyr yn debygol o'u hwynebu bob dydd.
  • Ar wahân i gyflwyno gwybodaeth ffeithiol wrthrychol, osgoi rhoi atebion pendant 'cywir' neu 'anghywir' i gwestiynau. Dylech chi ddefnyddio cwestiynau o'r fath i sbarduno trafodaeth, rhannu syniadau a, lle bo modd, meithrin cydsyniad ymhlith y cynghorwyr. Os gofyn rhywun am eich barn ar ryw bwnc llosg, gallwch chi sôn am y modd llwyddiannus mae cynghorwyr eraill wedi trin a thrafod sefyllfaoedd o'r fath neu gynnig amryw ddulliau y gallai'r cynghorwyr eu dewis.
  • Rhoi cyfle ar ddiwedd y sesiwn i'r cynghorwyr roi eu sylwadau ac ystyried yr hyn maen nhw wedi dysgu, gan roi ffurflenni ar gyfer adborth cyfrinachol.


3. Gwerthuso

Un o arferion da gweithgareddau datblygu yw cloriannu'r hyfforddiant yn fras. Mae ffurflenni adborth yn rhoi cyfle i'r cynghorwyr ymateb i wahanol agweddau'r rhaglen yn syth fel y gallai'r rhai sy'n ei chynnal addasu'r sesiynau'n briodol Dyma rai agweddau perthnasol i'w nodi:

  • Cynnwys – oedd y deunydd yn berthnasol?
  • Hwyluswyr – oedd yr arddull yn briodol?
  • Lefel – gyflwynoch chi'r wybodaeth i'r cynghorwyr newydd yn ôl y lefel iawn?
  • Cyflymder – rhy araf neu gyflym?
  • Amser – oedd yn gyfleus? Oedd yn rhy gynnar/hwyr yng ngyrfa'r cynghorydd?
  • Lle – man a threfn addas a chyffyrddus.
  • Perthnasedd – sut gall y cynghorydd ddefnyddio'r dysg nawr ac yn y dyfodol?
  • Awgrymiadau ynghylch gwella – oes rhywbeth y gallech chi ei wneud yn wahanol?
  • Anghenion o ran hyfforddiant ychwanegol – beth hoffai'r cynghorwyr ar ôl hyn?

Mae'n bwysig hel sylwadau'r hwyluswyr am anghenion y cynghorwyr, hefyd, yn ogystal â'u barn am lwyddiant y sesiynau. O gysylltu â'r cynghorwyr yn anffurfiol ryw chwech wythnos wedi iddyn nhw orffen y rhaglen hyfforddi, cewch chi gyfle i fynd ar ôl unrhyw anghenion o ran eu datblygu.

I gael cyngor am gynnwys y modiwlau neu gymorth wrth eu cyflwyno, cysylltwch ag WLGA.

Arweiniad Technegol

 

 

Yn ôl i’r brig | Rhagarweiniad | Arweiniad technegol

Gwaith dylunio a pharatoi Lovett Design ar gyfer WLGA 2008