Induction Pack Link to Introduction
WLGA logo
Argraffwch dim ond os gwir angen hynny.

Rhaglen Gyflwyno Cynghorwyr Cymru 2008

Croeso i Raglen Gyflwyno WLGA 2008 i Gynghorwyr. Mae ar y ddisgen yma y deunydd i gyd y bydd ei angen arnoch chi i gynnal saith modiwl cyflwyno ar gyfer cynghorwyr newydd neu seminarau atgoffa ar gyfer y rhai mwy profiadol.

Mae'r deunydd yma, sydd wedi'i baratoi gan WLGA a chwmni Blue Apple, wedi'i seilio ar yr hyn luniodd Carfan Gwella a Datblygu WLGA a rhai o aelodau Rhwydwaith Swyddogion Cynorthwyo'r Cynghorwyr bedair blynedd yn ôl.

Darllenwch y canllawiau am sut mae cynnal y sesiynau. Mae pob modiwl yn cynnwys mwy o wybodaeth nag y gallech chi ei chyflwyno'n hawdd mewn un sesiwn. Y rheswm dros hynny yw bydd digon o ddeunydd i'r rhai sy'n llywio'r cwrs allu amrywio'r cynnwys yn ôl y cyd-destun lleol ac anghenion y cynghorwyr.

Mae'n bwysig ychwanegu'ch gwybodaeth leol eich hun at rai adrannau a gofalu bod amryw swyddogion yn ymwneud â chynnal y cwrs neu wrth law i ateb unrhyw gwestiynau.

Y bwriad yw ichi gynnal y modiwlau mewn modd anffurfiol a rhoi digon o gyfleoedd i drafod y cynnwys a lledaenu profiad.

WLGA piau'r hawlfraint i'r deunydd yma. Mae rhwydd hynt i WLGA a'r awdurdodau sy'n perthyn iddi ei ddefnyddio a'i addasu. Dylai unrhyw un arall gysylltu ag WLGA a gofyn am ganiatâd i ddefnyddio'r deunydd.

Dyma gynnwys y grynoddisg:

  • Canllawiau ar gyfer y rhai sy'n trefnu ac yn llywio cyrsiau
  • Braslun o'r modiwlau
  • Y saith modiwl

Dyma gynnwys pob modiwl:

  • Cyflwyniadau PowerPoint yn y Gymraeg a'r Saesneg
  • Taflenni ac ymarferion yn y Gymraeg a'r Saesneg
  • Nodiadau i'r rhai sy'n llywio cyrsiau, gan gynnwys rhaglen enghreifftiol

Gobeithio y byddwch chi'n defnyddio'r deunydd yma i raddau helaeth. Os oes angen cymorth arnoch chi i gynnal y sesiynau neu drefnu rhagor o gyrsiau datblygu ar gyfer y cynghorwyr, gall Carfan Gwella a Datblygu WLGA eich helpu chi. Mae rhagor o wybodaeth gan Sarah Titcombe, Ymgynghorydd Datblygu Cyfundrefnol a Phersonol WLGA.

Sarah Titcombe
029 2046 8638

Arweiniad Technegol

 

 

Yn ôl i’r brig | Rhagarweiniad | Arweiniad Technegol

Gwaith dylunio a pharatoi Lovett Design ar gyfer WLGA 2008