Induction Pack Link to Introduction
WLGA logo


Arweiniad Technegol

Dyma ychydig o gyngor technegol i'ch helpu i ddefnyddio'r pecyn yma a golygu'ch cyflwyniadau.
Cyn dechrau, rhaid gwirio dau beth ar eich cyfrifiadur:

Yn rhaglen Word, dewiswch Tools ar y bar offer uchaf, yna Options. Yna, dewiswch View ac, o dan Show, gofalu bod:

  • Tic wrth ScreenTips

Yn yr un blwch, dewiswch Edit ac, o dan Editing options, gofalu nad oes:

  • Tic wrth Use CTRL + Click to follow hyperlink

Yna, dewiswch OK. Rydych chi'n barod i ddechrau.

Dod o hyd i bethau yn y ddogfen yma

Nodwch nad yw'r cysylltau yn yr esboniad isod yn gweithio. I ddibenion ymarfer, defnyddiwch y rhai yn y modiwlau.

Mae cysylltau yn y ddogfen yma i'ch helpu i symud y sleid berthnasol i amryw rannau o'r ddogfen ac i ddogfennau eraill sydd ar ffurf Word megis yr ymarferion. Mae'r rhestr isod yn disgrifio amryw fathau o gysylltau a beth maen nhw'n ei wneud.


1. Cyswllt â sleid PowerPoint

Eicon PowerPoint sy'n dynodi hwnnw. I ddefnyddio'r cyswllt, dodwch bwyntydd y llygoden ar yr eicon, clicio unwaith i'w ddewis a mynd yn ôl y neges a welwch chi yng nghornel chwith isa'r sgrîn.


2. Cyswllt â man penodol yn y ddogfen

ScreenTip sy'n dynodi hwnnw, naill ai trwy eicon Word fel uchod neu bennawd yn Rhestr y cynnwys, Rhaglen y modiwl neu Rhestr y sleidiau. I ddefnyddio'r cyswllt, cliciwch ar y testun neu'r eicon..





3. Cyswllt â thaflen ymarfer, dogfen PDF neu wefan

ScreenTip sy'n dynodi'r rheiny hefyd. Maen nhw'n gweithio yn yr un modd â'r cysylltau yn y ddogfen – rhaid clicio ar yr eicon i ddefnyddio'r cyswllt.

  • Dogfennau Word mae modd eu golygu yw'r taflenni ymarfer.
  • Does dim modd golygu dogfennau PDF, dim ond eu darllen.
  • Bydd cysylltau â gwefannau yn eich galluogi i hel rhagor o wybodaeth ar yr amod bod eich cyfrifiadur wedi'i gysylltu â'r we.

Fe welwch chi'r neges isod ar eich sgrîn, o bosibl, yn ôl gofynion diogelu'ch cyfrifiadur. Os felly, dewiswch OK i fwrw ymlaen.

 

Yn ôl i’r brig | Rhagarweiniad | Arweiniad Technegol

Argraffwch dim ond os gwir angen hynny.
Gwaith dylunio a pharatoi Lovett Design ar gyfer WLGA 2008